NUS Awards Scotland

Enillwyr Gwobrau UCM Cymru 2013

Denodd ail gyfres Gobrau UCMC dros 80 o enwebiadau, gan ddathlu amrediad o sgiliau a llwyddiannau ar draws prifysgolion, colegau, myfyrwyr ac undebau myfyrwyr.

‘Roedd y panel o feirniaid annibynnol eleni’n cynnwys:

  • Cyn Lywydd UCMC, Vaughan Gething AC
  • Gohebydd Addysg y Western Mail, Gareth Evans
  • Pennaeth Ymgyrchoeddu mudiad Achub y Plant, Jean McLean

Gwnaeth dyfnder talentau’r ymgeiswyr gryn argraff ar y beirniaid, ac ‘roedd yno amrediad eang o enwebiadau teilwng.

Ond, ni all fod yno ond un enillydd ar gyfer pob gwobr, felly dyma nhw:

 

Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Undeb Myfyrwyr Addysg Bellach y Flwyddyn

Undeb Myfyrwyr Coleg Glannau Dyfrdwy

Aelod Staff mewn Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn Simpson-King

Rhys Dart, Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Bangor

Swyddog Undeb Myfyrwyr Addysg Bellach y Flwyddyn

Hailey Townsend o Undeb Myfyrwyr Coleg Pen-y-Bont

Swyddog Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn

VRSA Mahaboob Basha, Swyddog Rhyngwladol, Prifysgol Abertawe

Cyfryngau Myfyrwyr Gorau

Cyfryngau Myfyrwyr Caerdydd yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd

Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn

Chris Flynn o’r Waterfront yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Ymgyrch y Flwyddyn

Ymgyrch Tai, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

Myfyriwr y Flwyddyn Endsleigh

Rhys Jenkins o Brifysgol Caerdydd

Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn

Martyn Curzey o Brifysgol Bangor

Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn

Cymdeithas Gorawl Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Gwobr Perthynas â’r Gymuned

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

 

Llongyfarchiadau!

‘Rydym yn edrych ymlaen at Wobrau UCM Cymru 2014.